15 Rhagfyr 2015
Annwyl Syr/Madam
Ymgynghoriad ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft
Mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal gwaith craffu cyn deddfu ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft.
Ar 24 Tachwedd 2015, cyhoeddodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus y Bil drafft a'r dogfennau ymgynghori, ac fe wnaeth ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn.
Cylch gorchwyl
Dyma’r cylch gorchwyl ar gyfer gwaith craffu cyn deddfu y Pwyllgor:
Ystyried y Bil drafft a'r dogfennau atodol, gan gynnwys y Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol (sy'n asesu costau a manteision y bwriadau polisi posibl a gynhwysir yn y Bil drafft).
Gwahoddiad i gyfrannu at y gwaith craffu cyn deddfu
Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo ei waith o graffu ar y Bil drafft. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb. Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y cyfan neu unrhyw rannau o'r Bil drafft neu'r dogfennau ategol. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Efallai y bydd y Pwyllgor hefyd yn gwahodd nifer fach o dystion i roi tystiolaeth lafar i lywio ei waith craffu.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddCCLLL@cynulliad.cymru
Fel arall, ysgrifennwch at:
Clerc y Pwyllgor,
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth
Leol,
Cynulliad
Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
CF99 1NA.
Dylai unrhyw sylwadau gyrraedd erbyn 21 Ionawr 2016. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gofyn i’r rhai sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr ddosbarthu atodedig anfon sylwadau. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe baech yn gallu anfon copi o’r llythyr at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at y gwaith craffu cyn deddfu o bosibl. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.assembly.wales/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Canllaw ar gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl fel y’i nodir uchod.
Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Diben y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau. Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.
Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir gan osgoi jargon diangen.
Defnyddiwch ffont sydd o leiaf maint 12.
Defnyddiwch Lucida Sans, sy’n ffont clir sans seriff.
Peidiwch ag ysgrifennu testun dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau.
Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll.
Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu.
Lle bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word er mwyn sicrhau hygyrchedd. Pan fyddwch chi’n cyflwyno sgan neu ddogfen PDF, yn enwedig llythyrau wedi’u llofnodi neu dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno’r ddogfen Word wreiddiol hefyd.
Yn gywir,
Christine Chapman AC
Cadeirydd
Rhestr o ymgyngoreion
Llywodraeth Leol
Pob un o'r 22 Awdurdod Lleol
Cymdeithas Ysgrifenyddion y Cynghorau a Chyfreithwyr
Canolfan Arweinyddiaeth Llywodraeth leol
Parciau Cenedlaethol Cymru
Cymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru
Un Llais Cymru
Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru (SOLACE)
Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cydgysylltwyr Rhanbarthol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
Y sector cyhoeddus
Awdurdodau Tân ac Achub Cymru
Pob un o Awdurdodau’r Heddlu
Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu Cymru
Yr holl Undebau
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Comisiynydd Plant Cymru
Y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy
Cynghorau Iechyd Cymuned
Y Comisiwn Etholiadol
ESYTN
Byrddau Iechyd
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ymddiriedolaethau’r GIG
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Swyddfa Archwilio Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Conffederasiwn GIG Cymru
Y Trydydd Sector
Cynghrair Cymdeithas Parciau Cenedlaethol Cymru
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Academaidd/ymchwil
Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
Ysgol Fusnes Caerdydd
Canolfan Ymchwil Llywodraeth Leol a Rhanbarthol
Y Ganolfan Craffu Cyhoeddus
Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus
Y Sefydliad Materion Cymreig
Cyrff proffesiynol
CIPFA
Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (Cymru)
Cymdeithas Tirfeddianwyr Cefn Gwlad Cymru
Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru
Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol
Sefydliadau eraill
Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
Comisiwn y Gyfraith
Cymru’r Gyfraith
Sefydliadau Cydraddoldeb
Rhwydwaith Gwrth-dlodi Cymru
Sefydliad Bevan
Cyngor Gofal Cymru
Cymdeithas yr laith Gymraeg
Cymru Yfory
Anabledd Cymru
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru
Anabledd Dysgu Cymru
Mencap Cymru
Comisiynydd y Gymraeg